Diweddariadau Mai 17eg ar Boicot Marcio ac Asesu Gwanwyn 2023

Mae’r e-bost hwn i aelodau yn canolbwyntio ar y boicot asesu a marcio (BAM) y mae aelodau’n cymryd rhan ynddo ar hyn o bryd.

Mae cant a thri ar ddeg o aelodau wedi dweud wrthym eu bod yn cymryd rhan weithredol yn y boicot. Mae 40 aelod arall wedi dweud wrthym eu bod yn dal i benderfynu. Mae pedwar ar hugain o aelodau wedi dweud wrthym nad oes ganddynt ddyletswyddau y gallant eu gwrthod. Mae tri deg chwech wedi dweud wrthym nad ydynt yn bwriadu cymryd rhan. Gwyddom fod staff yn CARBS, CHEMY, COMSC, EARTH, ENCAP, GEOPL, HCARE, JOMEC, LAWPL, MEDIC, MLANG, OPTOM, PHYSX, PSYCH, SHARE, SOCSI a BIOSI yn cymryd rhan. Gwyddom o ganghennau eraill fod BAM yn fath o weithredu diwydiannol sy’n gofyn am lai o gyfranogwyr i fod yn effeithiol nag ar gyfer streic. Efallai y byddwch yn teimlo eich bod yn gwneud hyn ar eich pen eich hun, ond nid felly mae. Cofiwch, gallwch ymuno â’r BAM ar unrhyw adeg, hyd yn oed os ydych eisoes wedi gwneud rhywfaint o’ch marcio.

Os nad ydych wedi dweud wrth y gangen a ydych yn bwriadu cymryd rhan eto, cwblhewch yr arolwg cangen byr iawn (60 eiliad):
https://cardiffucu.onlinesurveys.ac.uk/cardiff-ucu-marking-and-assessment-boycott-2023

Ysgrifennodd y gangen at y Bwrdd Gweithredol ynghylch eu polisïau didyniadau ar 4 Mai (yn Saesneg). Cafwyd ateb ddydd Gwener (12fed, yn Saesneg hefyd). Yn anffodus, nid oedd y Bwrdd Gweithredol yn gallu cynnig unrhyw eglurder pellach i’w polisïau (y mae’n ymddangos bod rhai ohonynt wedi’u newid yn llechwraidd). Gofynnodd y gangen i’r UEB beth roedd yn ei wneud er mwyn rhoi yr un pwysau ar UCEA i ddod â’r anghydfod i ben ag yr oedd yn ceisio ei roi ar staff, ond mae UEB yn glynnu at ei linell “materion cenedlaethol ar y cyd yw’r rhain, mae angen y ddau ochr i weithredu, UCEA a’r cynrychiolwyr undebau llafur cenedlaethol ill dau, i lywio ni trwy hyn a datrys y sefyllfa.” Nid yw’n glir pa atebion y gellir eu canfod tra bod UCEA yn gwrthod cyd-drafod ag UCU. Dylai fod yn syndod nad yw ein cyflogwr yn ymddangos fel eu bod â diddordeb o safbwynt newid y sefyllfa hon.

Cyfrannu at y gronfa leol

Rydym yn gofyn i bob aelod sydd ddim yn cymryd rhan yn y MAB i roi £50 i’r gangen GoFundMe, gyda’r nod o godi £20,000 yn y lle cyntaf. Bydd cymryd rhan yn y MAB yn costio miloedd o bunnoedd i’ch cydweithwyr. Byddai aberth llawer llai gan aelodau nad ydynt yn cymryd rhan yn helpu i leddfu’r baich ac yn eu helpu i gynnal gweithredu ar eich rhan.

Ein GoFundMe: https://gofund.me/f7e70767

Mae boicotio marcio yn cymryd amser i adeiladu pwysau ar gyflogwyr. Po hiraf y gallwn gefnogi cydweithwyr i weithredu, y mwyaf o bwysau y gallwn ei roi ar ein cyflogwyr ar y cyd.

Mae trysorydd ein cangen wedi gwneud rhai cyfrifiadau bras, a chanfod bod aelod Gradd 6, Spine 33 sy’n ymwneud â’r BAM yn colli tua £1200/mis. Nid yw ‘n fwriad digolledu’n llawn pawb sy’n gweithredu – ni fydd angen y lefel hon o gefnogaeth ar bob aelod, hyd yn oed os oedd gennym yr arian i’w ddarparu. Ond mae angen i ni dyfu ein cronfa ymgyrchu leol er mwyn cefnogi aelodau yr effeithir arnynt fwyaf yn ariannol gan eu cyfranogiad.

Mae cangen UCU Birmingham wedi codi cronfa leol o £50,000. Pe gallem godi hyd yn oed hanner hynny byddem mewn sefyllfa llawer cryfach o ran cefnogi aelodau yn y sefyllfaoedd anoddaf. Pe bai pob aelod nad oedd yn cymryd rhan yn y BAM yn gwneud cyfraniad o £50, byddem yn mynd heibio i £20,000!

Cymryd rhan yn y boicot

Rydym yn gofyn i bawb gymryd rhan i’r graddau mwyaf posibl. Po fwyaf o dasgau y mae aelodau’n gwrthod eu cyflawni, y mwyaf o bwysau y gallwn ei roi ar ein cyflogwr. Os ydych yn cael trafferth gweithio allan sut i gymryd rhan, siaradwch â chynrychiolydd eich cangen, neu dewch i un o gyfarfodydd undod BAM i siarad amdano. Rydym yn gwrthod tasgau a neilltuwyd i ni fel unigolion, ond ymdrech ar y cyd yw hon!

Cyfarfod Undod i Siaradwyr Cymraeg ddydd Gwener am 2yh

Ydych chi’n siarad Cymraeg? Mae’r gangen yn cynnal cyfarfod undod cyfrwng Cymraeg am 14.00 ddydd Gwener 19eg Mai. Mae’r cyfarfod yn agored i bob aelod, nid dim ond staff Ysgol y Gymraeg. Cynhelir y cyfarfod yn gyfan gwbl yn Gymraeg. Yn anffodus, nid yw Zoom yn gallu darparu capsiynau byw ar gyfer y Gymraeg. Os nad ydych yn defnyddio’r Gymraeg, a fyddech cystal ag ystyried dod i un o’r cyfarfodydd undod MAB eraill sydd wedi’u hamserlennu. Diolch!

Ymunwch ar Zoom:
ID: 850 8418 4528
Cod pas: 813119
https://cardiff.zoom.us/j/85084184528?pwd=MGxxRDk0THNqeG9lZWppSWMvTE1Ydz09

Cyfarfod undod BAM

Mae cyfarfodydd undod BAM rheolaidd yn cael eu cynnal ac maent yn agored i bob aelod. P’un a oes gennych gwestiynau am y weithred, yn ystyried cymryd rhan, neu ddim ond eisiau siarad am sut mae pethau’n mynd, ymunwch.

Dydd Mercher 10 Mai am 12yh
Dydd Mawrth 16 Mai am 10yb
Iau 18 Mai am 10yb
Llun 22 Mai am 1yj
Dydd Mercher 24 Mai am 11yb

Ar Zoom: https://cardiff.zoom.us/j/81847133601?pwd=bWhKVmZ6emNxdW13cGMvOWdPVllyQT09

Negeseuon tu allan i’r swyddfa dwyieithog ar gyfer gweithredu diwydiannol UCU 2022

Ar gyfer ASOS (gweithredu’n fyr o streic) – 23 Tachwedd ymlaen nes clywir yn wahanol

Diolch am eich neges. Noder fy mod yn ‘gweithio i gontract’ fel rhan o weithredu diwydiannol UCU i gefnogi cyflog a phensiynau teg ym maes addysg uwch. Gall hyn olygu y bydd yn cymryd yn hirach i mi ymateb i e-byst. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am yr anghydfod yma: https://www.ucu.org.uk/article/12609/Biggest-ever-university-strikes-set-to-hit-UK-campuses-over-pay-conditions–pensions  

Thank you for your message. Please note I am ‘working to contract’ as part of the UCU industrial action in support of fair pay and pensions in higher education. This may mean it takes longer for me to respond to emails. You can find out more about the dispute here: https://www.ucu.org.uk/article/12609/Biggest-ever-university-strikes-set-to-hit-UK-campuses-over-pay-conditions–pensions  

Ar gyfer diwrnodau streic – 24, 25 a 30 Tach

Opsiwn 1 am ddiwrnodau streic


Diolch am eich neges. Noder fy mod ar streic heddiw fel rhan o weithredu diwydiannol UCU i gefnogi cyflog a phensiynau teg ym maes addysg uwch. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am yr anghydfod yma: https://www.ucu.org.uk/article/12609/Biggest-ever-university-strikes-set-to-hit-UK-campuses-over-pay-conditions–pensions  

Thank you for your message. Please note I am on strike today as part of the UCU industrial action in support of fair pay and pensions in higher education. You can find out more about the dispute here: https://www.ucu.org.uk/article/12609/Biggest-ever-university-strikes-set-to-hit-UK-campuses-over-pay-conditions–pensions  

Opsiwn 2 am ddiwrnodau streic

Nid wyf yn gallu agor fy e-bost heddiw gan fod aelodau UCU Caerdydd yn ymgymryd â gweithredu diwydiannol, ynghyd â 150 o brifysgolion eraill, o achos ymosodiadau ar gyflog, amodau gwaith, a phensiynau. Bydd aelodau UCU Caerdydd ar streic ar 24, 25 a 30 Tachwedd. Peidiwch ag e-bostio yn ystod y dyddiau hyn os gwelwch yn dda gan na fydd modd i mi ymateb i’r e-byst sydd wedi eu gyrru i mi ar ddiwrnodau’r streic pan fyddaf yn dychwelyd. Os hoffech fwy o wybodaeth am yr anghydfod, ewch i www.cardiffucu.org.uk os gwelwch yn dda. Os ydych yn fyfyriwr/aig, mae croeso i chi gysylltu â v-c@cardiff.ac.uk er mwyn darganfod pa gamau sy’n cael eu cymryd gan yr Is-ganghellor er mwyn osgoi’r anghydfod. 

Myfyrwyr Personol: Os yw eich ymholiad yn un brys, cysylltwch â’r swyddfa gwasanaeth myfyrwyr.

I am not able to check email today as members of Cardiff UCU are taking industrial action, along with members at 150 other universities, over attacks on pay, working conditions, and pensions. Members of Cardiff UCU will be on strike on 24, 25 and 30 November. Please do not email on these days as I will not be able to respond to emails sent to me on strike days on my return. If you would like more information about the dispute, please go to www.cardiffucu.org.uk. If you are a student, please do contact v-c@cardiff.ac.uk to find out what steps the Vice-Chancellor is taking to avoid a dispute.

Personal Tutees: If your matter is urgent , please contact the student services office.

Neges gan Lywydd UCU Caerdydd Lucy Riglin wrth i ni ddechrau’r flwyddyn academaidd newydd

Wrth i ni ddechrau blwyddyn academaidd 2022-23, rwyf am ddechrau drwy ddiolch i bawb am eu cyfraniadau i’r gangen y llynedd. Roedd hi’n flwyddyn arall llawn heriau ac mae’r ffordd y mae’r gangen yn dod at ei gilydd yn wyneb y rhain wedi creu argraff arnaf. Rwy’n credu y dylem i gyd fod yn falch o’r hyn a gyflawnwyd gyda’n gilydd (gweler rhagor o wybodaeth am rai o’r rhain isod).

Mae gennym flwyddyn bwysig o’n blaenau gyda’r pleidleisiau presennol, gwaith parhaus ein gweithgorau llwyth gwaith, yn erbyn swyddi dros dro a Chydraddoldeb, Amrywiaeth, Cynwysoldeb (EDI), yn ogystal â mentrau newydd (mwy o wybodaeth am rai o’r rhain isod). Mae’n edrych yn debyg y bydd hon hefyd yn flwyddyn bwysig i’r mudiad Undebau Llafur yn ehangach, gyda streiciau cynyddol ar draws nifer o undebau yn ogystal â mwy o weithgareddau traws-undeb, sy’n hanfodol yn enwedig yn yr hinsawdd bresennol o doriadau cynyddol ar gyflogau ac amodau a’r argyfwng costau byw. Fel bob amser, cysylltwch os hoffech chi ymwneud mwy â gweithgareddau ein cangen.

Roeddwn i hefyd eisiau eich diweddaru y byddaf ar gyfnod mamolaeth o 12 Hydref tan 12 Ebrill ac felly byddaf yn ymwneud llai â’r gangen yn ystod y cyfnod hwn. Bydd yr Is-Lywyddion Joey Whitfield ac Andy Buerki, ynghyd â Renata Medeiros Mirra fel Cadeirydd y gangen, yn ymdrin â fy nyletswyddau yn fy absenoldeb. Mae rhestr lawn o Bwyllgor Gwaith 2022-23 ar gael. Rwy’n edrych ymlaen at barhau yn fy rôl lle mae’n bosib!

Mewn undod,

Lucy Riglin
Lywydd UCU Caerdydd