Neges gan Lywydd UCU Caerdydd Lucy Riglin wrth i ni ddechrau’r flwyddyn academaidd newydd

Wrth i ni ddechrau blwyddyn academaidd 2022-23, rwyf am ddechrau drwy ddiolch i bawb am eu cyfraniadau i’r gangen y llynedd. Roedd hi’n flwyddyn arall llawn heriau ac mae’r ffordd y mae’r gangen yn dod at ei gilydd yn wyneb y rhain wedi creu argraff arnaf. Rwy’n credu y dylem i gyd fod yn falch o’r hyn a gyflawnwyd gyda’n gilydd (gweler rhagor o wybodaeth am rai o’r rhain isod).

Mae gennym flwyddyn bwysig o’n blaenau gyda’r pleidleisiau presennol, gwaith parhaus ein gweithgorau llwyth gwaith, yn erbyn swyddi dros dro a Chydraddoldeb, Amrywiaeth, Cynwysoldeb (EDI), yn ogystal â mentrau newydd (mwy o wybodaeth am rai o’r rhain isod). Mae’n edrych yn debyg y bydd hon hefyd yn flwyddyn bwysig i’r mudiad Undebau Llafur yn ehangach, gyda streiciau cynyddol ar draws nifer o undebau yn ogystal â mwy o weithgareddau traws-undeb, sy’n hanfodol yn enwedig yn yr hinsawdd bresennol o doriadau cynyddol ar gyflogau ac amodau a’r argyfwng costau byw. Fel bob amser, cysylltwch os hoffech chi ymwneud mwy â gweithgareddau ein cangen.

Roeddwn i hefyd eisiau eich diweddaru y byddaf ar gyfnod mamolaeth o 12 Hydref tan 12 Ebrill ac felly byddaf yn ymwneud llai â’r gangen yn ystod y cyfnod hwn. Bydd yr Is-Lywyddion Joey Whitfield ac Andy Buerki, ynghyd â Renata Medeiros Mirra fel Cadeirydd y gangen, yn ymdrin â fy nyletswyddau yn fy absenoldeb. Mae rhestr lawn o Bwyllgor Gwaith 2022-23 ar gael. Rwy’n edrych ymlaen at barhau yn fy rôl lle mae’n bosib!

Mewn undod,

Lucy Riglin
Lywydd UCU Caerdydd