Templed e-bost ar gyfer siarad am boicot marcio ac asesu 2023 gyda myfyrwyr

Yr hyn sy’n dilyn yw templed a awgrymir i helpu i egluro cyfranogiad i fyfyrwyr ac ychydig o arweiniad. Ailgymysgwch, addaswch, gwnewch iddo weithio ar gyfer eich cyd-destun chi ond cofiwch rhaid osgoi cael ein gweld yn ceisio ennyn ymateb penodo gan y myfyrwyr, ac rydym yn eich cynghori i gynnwys yr opsiynau llawn fel rydym wedi’u rhestri isod. Mae gennym ni ddogfen Word gyda’r testun ynddi hefyd, os byddai hynny’n ddefnyddiol i chi.

Annwyl Fyfyrwyr,

Rwy’n gobeithio eich bod chi i gyd yn iawn.

Gyda’r byrddau arholi yn nesáu efallai y byddwch mewn sefyllfa lle na fydd eich holl asesiadau’n cael eu marcio. Roeddwn i eisiau cysylltu â chi i roi gwybod ichi fy mod yn un o’r aelodau staff sy’n cymryd rhan yn y Boicot Asesu a Marcio, i egluro pam, ac i ofyn am eich cymorth.

Yn gyntaf hoffwn bwysleisio fy mod yn drist ac yn siomedig iawn nad wyf wedi gallu marcio / prosesi eich asesiadau ar gyfer y modiwl hwn; rydych chi fel myfyrwyr a ninnau fel staff wedi gweithio’n galed i baratoi ar eu cyfer, ond teimlaf yn gryf iawn am y rhesymau dros y gweithredu (ceir y manylion isod).

Mae’n ddrwg calon gennyf y bydd y cam hwn yn effeithio arnoch, ond nid yw’r sawl sy’n gyfrifol am ein Prifysgolion wedi rhoi unrhyw ddewis inni. Mae yna anghydfod wedi bod ynglŷn â’n cyflog a’n hamodau gwaith ers deng mlynedd, heb fawr ddim gwelliant, os o gwbl, ac mae’r rhai ohonom sydd yn yr Undeb yn teimlo ein bod wedi ceisio pob ffordd o gael y maen i’r wal, ac nad oes gennym unrhyw ddewis arall na chymryd y cam difrifol hwn.

Sylwch hefyd fod y Brifysgol yn tynnu 50%, a hyd at 100% o gyflog y rhai sy’n cymryd rhan yn y gweithredu yma, dros gyfnod sy’n debygol o bara hyd at ddau fis, neu fwy, os nad yw’r Rheolwyr yn dangos parodrwydd i ddatrys y sefyllfa. Gan eu bod nhw wedi penderfynu ymateb mewn modd mor llym, rydym wedi galw dyddiau streic pellach.

Mae’r sefyllfa’n anghynaladwy, ac os hoffech gefnogi staff a gweld y sefyllfa’n cael ei datrys, gofynnaf ichi ystyried cysylltu â’r Is-Ganghellor i fynegi eich siom, gan mai pwysau yn y pen draw gan fyfyrwyr – sy’n talu ffioedd mor fawr – sy’n gallu dwyn perswâd ar Benaethiaid y Brifysgol i ddychwelyd i drafodaethau. Rydym yn awyddus i ddechrau’r broses hon cyn gynted â phosibl; pan fydd aelodau’n fodlon bod cyflogwyr o ddifrif ynglŷn â datrys y materion hyn, bydd y boicot yn dod i ben. Gweler isod am fanylion.

Rwy’n hapus i siarad am hyn gydag unrhyw un ohonoch, os yw hynny’n helpu.

Cymerwch ofal,

Xxxxx

Boicot Marcio ac Asesu UCU: Gwybodaeth i fyfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd

Beth sy’n digwydd?

Rydym yn aelodau o Undeb y Prifysgolion a’r Colegau (UCU). Ni yw eich tiwtoriaid seminar, staff gwasanaethau proffesiynol, a darlithwyr. Rydyn ni’n eich dysgu chi, rydyn ni’n eich cefnogi ac yn eich arwain, ac rydyn ni’n gwneud yr ymchwil rydych chi’n dibynnu arno.

Ynghyd â miloedd o aelodau eraill o UCU ar draws holl brifysgolion y DU, rydym yn cymryd rhan mewn ‘Boicot Marcio ac Asesu’.

Boicot Marcio ac Asesu yw pan fydd gweithwyr prifysgol yn rhoi’r gorau i wneud yr holl waith sy’n ymwneud ag asesiadau cyfansymiol myfyrwyr.

Byddwn yn parhau gyda phob agwedd arall ar ein swyddi. Gallwch gysylltu â ni fel yr arfer os oes gennych unrhyw broblemau neu gwestiynau am eich astudiaethau neu les personol. Byddwn ni yma i chi.

Dechreuodd y Boicot Marcio ac Asesu hwn ar 20 Ebrill 2023 a bydd yn parhau nes bod penaethiaid prifysgolion yn cytuno i ddychwelyd at y bwrdd negodi i ddod o hyd i fargen dderbyniol.

Pam ei fod yn digwydd?

Rydym yn gofyn i benaethiaid prifysgolion am y canlynol:

1. Cynnig cyflogaeth sicr i ni gydag incwm sefydlog, fel y gallwn gynllunio ein bywydau – nid swyddi ansicr, dros dro neu swyddi â thâl fesul awr.

2. Cael gwared ar anghyfartaledd cyflog ar sail rhyw, hil ac anabledd.

3. Talu digon i ni fel y gallwn fforddio’r costau byw cynyddol.

4. Lleihau ein llwyth gwaith i lefel sydd yn caniatáu inni oroesi.

Rydym eisoes wedi cymryd sawl ffurf ar weithredu diwydiannol eleni ac mewn blynyddoedd blaenorol. Nid yw ein cyflogwyr wedi gwneud cynnig teg inni o hyd. Y Boicot Asesu a Marcio yw ein dewis olaf un. Rydym wedi rhoi’r gorau i farcio asesiadau felly bydd penaethiaid prifysgolion yn gwrando arnom. Rydym am ddod o hyd i ddatrysiad i’r anghydfod hwn a dychwelyd i’r drefn cyn gynted â phosibl. Ond mae bellach yn nwylo ein cyflogwyr.

Sut mae hyn yn effeithio ar fyfyrwyr?

Yn ystod y Boicot Asesu a Marcio:

  • Efallai y bydd rhai o ganlyniadau eich asesiadau cyfansymiol y flwyddyn academaidd hon yn cael eu heffeithio. Efallai na chewch eich marciau tan ar ôl i’r boicot marcio ddod i ben.
  • Os ydych ym mlwyddyn olaf eich gradd, fel myfyriwr israddedig neu ôl-raddedig, gallai hyn olygu bod oedi wrth raddio.
  • Efallai y bydd oedi cyn gwneud penderfyniadau swyddogol ynghylch a allwch symud ymlaen i flwyddyn nesaf eich cwrs.

Unwaith y bydd penaethiaid prifysgolion yn dangos eu bod o ddifrif am ddatrys y materion hyn, bydd y boicot yn dod i ben, a byddwn yn ailddechrau ein gweithgareddau marcio ac asesu, fel y gall myfyrwyr dderbyn marciau a symud ymlaen neu raddio.

Mae pryderon cynyddol hefyd bod y brifysgol yn ceisio torri corneli, gan leihau ansawdd eich graddau yn y broses. Mae hyn oherwydd y risg y bydd uwch reolwyr o bosibl yn gwneud penderfyniadau anghymwys i adael i fyfyrwyr symud ymlaen, neu hyd yn oed raddio heb i’w gwaith gael ei farcio’n gywir. Drwy osgoi’r broses hanfodol o farcio gwaith myfyrwyr, gallai penderfyniadau o’r fath amharu ar ragolygon cyflogaeth graddedigion Prifysgol Caerdydd. Rhaid inni fod ar ein gwyliadwriaeth, a gwrthwynebu hyn.

Pam ddylai myfyrwyr gefnogi’r boicot?

Amodau dysgu myfyrwyr yw ein hamodau gwaith ni.

Rydym yn ceisio amddiffyn ein cymuned prifysgol gyfan – gan gynnwys chi – rhag blwyddyn ar ôl blwyddyn o ddiwygiadau gwael sydd wedi niweidio ein morâl a’i gwneud bron yn amhosibl i ni wneud ein gwaith yn iawn. Rydyn ni’n poeni’n fawr am fyfyrwyr. Rydyn ni eisiau i chi allu dysgu a ffynnu. Dyma pam rydyn ni’n dod i’r gwaith bob dydd!

Rydym yn wirioneddol bryderus, os na fyddwn yn gwneud dim yn awr, y bydd staff y brifysgol yn wynebu llwythi gwaith hyd yn oed yn fwy amhosibl, ac ansawdd bywyd tlotach a gwaeth. Bydd profiad myfyrwyr ond yn gwaethygu, er y bydd yn rhaid i chi (a’ch brodyr a chwiorydd iau) dalu ffioedd gormodol a mynd i ddyled.

Rydym yn poeni y bydd menywod, lleiafrifoedd ethnig, pobl anabl a phobl dosbarth gweithiol sy’n gweithio yma yn wynebu hyd yn oed mwy o anfanteision.

Y Boicot Asesu a Marcio bellach yw’r unig ffordd y gallwn sicrhau prifysgol decach a mwy cyfartal, er budd myfyrwyr a staff, fel ei gilydd.

Mwy o wybodaeth: https://www.ucu.org.uk/media/13501/ucuRISING-student-explainer-leaflet/pdf/ucuRISING_Strike_student_leaflet_Mar23.pdf

Sut gall myfyrwyr helpu i ddod â’r boicot i ben?

  1. E-bostiwch ein Is-Ganghellor, yr Athro Colin Riordan: v-c@caerdydd.ac.uk Dywedwch eich bod yn cefnogi Boicot Asesu a Mario cyfredol yr UCU. Gofynnwch iddo os gwelwch yn dda gymryd camau i fynd i’r afael â gofynion UCU ynghylch gwaith achlysurol, cyflog cyfartal, tâl, a llwyth gwaith. Gofynnwch am ad-daliad o’ch ffioedd myfyriwr.
    1. Dywedwch wrth eich tiwtoriaid a’ch darlithwyr, drwy e-bost neu wyneb yn wyneb, y byddwch yn eu cefnogi os byddant yn cymryd rhan yn y boicot marcio ac asesu.
    1. Llofnodwch yr addewid hwn: https://www.ucu.org.uk/supportthestrikes
    1. Postiwch ar twitter i ddweud eich bod yn cefnogi’r Boicot Marcio ac Asesu, gan ddefnyddio’r hashnod #ucuRISING a thagio @CardiffUCU.

Mwy o wybodaeth: https://www.ucu.org.uk/MAB2023