Bilingual out-of-office messages for UCU industrial action 2023

For ASOS (action short of a strike) – until further notice

Diolch am eich neges. Noder fy mod yn ‘gweithio i gontract’ fel rhan o weithredu diwydiannol UCU i gefnogi cyflog a phensiynau teg ym maes addysg uwch. Gall hyn olygu y bydd yn cymryd yn hirach i mi ymateb i e-byst. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am yr anghydfod yma: https://www.ucu.org.uk/article/12759/University-strike-dates-in-February-and-March-confirmed

Thank you for your message. Please note I am ‘working to contract’ as part of the UCU industrial action in support of fair pay and pensions in higher education. This may mean it takes longer for me to respond to emails. You can find out more about the dispute here: https://www.ucu.org.uk/article/12759/University-strike-dates-in-February-and-March-confirmed

For strike days – 1st February 2023 onwards

Option 1 for strike days

Diolch am eich neges. Noder fy mod ar streic heddiw fel rhan o weithredu diwydiannol UCU i gefnogi cyflog a phensiynau teg ym maes addysg uwch. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am yr anghydfod yma: https://www.ucu.org.uk/article/12759/University-strike-dates-in-February-and-March-confirmed  

Thank you for your message. Please note I am on strike today as part of the UCU industrial action in support of fair pay and pensions in higher education. You can find out more about the dispute here: https://www.ucu.org.uk/article/12609/Biggest-ever-university-strikes-set-to-hit-UK-campuses-over-pay-conditions–pensions  

Option 2 for strike days

I am not able to check email today as members of Cardiff UCU are taking industrial action, along with members at 150 other universities, over attacks on pay, working conditions, and pensions. Members of Cardiff UCU will be on strike for 18 days in February and March, starting on the February 1st. Please do not email on these days as I will not be able to respond to emails sent to me on strike days on my return. If you would like more information about the dispute, please go to www.cardiffucu.org.uk. If you are a student, please do contact v-c@cardiff.ac.uk to find out what steps the Vice-Chancellor is taking to avoid a dispute.

Nid wyf yn gallu agor fy e-bost heddiw gan fod aelodau UCU Caerdydd yn ymgymryd â gweithredu diwydiannol, ynghyd â 150 o brifysgolion eraill, o achos ymosodiadau ar gyflog, amodau gwaith, a phensiynau. Bydd aelodau UCU Caerdydd ar streic am 18 diwrnod ym mis Chwefror a mis Mawrth, gan ddechrau ar Chwefror 1af. Peidiwch ag e-bostio yn ystod y dyddiau hyn os gwelwch yn dda gan na fydd modd i mi ymateb i’r e-byst sydd wedi eu gyrru i mi ar ddiwrnodau’r streic pan fyddaf yn dychwelyd. Os hoffech fwy o wybodaeth am yr anghydfod, ewch i www.cardiffucu.org.uk os gwelwch yn dda. Os ydych yn fyfyriwr/aig, mae croeso i chi gysylltu â v-c@cardiff.ac.uk er mwyn darganfod pa gamau sy’n cael eu cymryd gan yr Is-ganghellor er mwyn osgoi’r anghydfod. 

Option 3 for strike days

Shwmae! Sai ar gael ar hyn o bryd achos fy mod yn cymryd rhan mewn streic fel rhan o weithredu diwydiannol gan Undeb y Brifysgol a’r Coleg (UCU) i amddiffyn ein hawl i bensiwn teg, cyflog teg, cytundebau diogel a chydraddoldeb yn y gweithle. 

Os wyt ti’n fyfyriwr, anfona e-bost at yr Is-ganghellor i ofyn iddo ddweud wrth sefydliad y prifysgolion (UCEA) i ddelio â’r anghydfod yn deg. Gallwch chi wneud hynny yma >>> https://www.ucu.org.uk/email-your-Vc 

Mae Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn cefnogi’r streic ac mae Undeb Prifysgolion a Cholegau Caerdydd wedi pleidleisio o blaid yr holl fyfyrwyr sydd am fynnu ad-daliad ffioedd.

Anfona e-bost ataf yn ôl ar ddiwrnod nad yw’n ddiwrnod streic UCU: https://www.ucu.org.uk/article/12759/University-strike-dates-in-February-and-March-confirmed

**

Hello! I’m not available right now because I’m taking part in the University and College Union (UCU) strike action to defend our right to a fair pension, fair pay, secure contracts and equality at work.

If you’re a student, please email the Vice Chancellor to ask him to tell the Universities’ organisation UCEA to deal with the dispute fairly. You can do that right here >>> https://www.ucu.org.uk/email-your-Vc 

Cardiff Uni Student’s Union supports the strike and Cardiff UCU has voted in support of all students who wish to demand fee refunds.

Please email me back on a day that is not a UCU strike day: https://www.ucu.org.uk/article/12759/University-strike-dates-in-February-and-March-confirmed