June 23rd 2023 MAB Update

You will have received an email from the Vice-Chancellor today attempting to encourage those participating in the Marking and Assessment Boycott (MAB) into giving up their action.This move demonstrates the effectiveness of the MAB, despite what official University communications may say about the ‘small numbers’ of staff taking part. 
We strongly encourage our members to stay firm and hold the line. There is financial support for you from National UCU and our local fund. Donate to the branch GoFundMe if you can.
Our strikes targeting the open days on 30 June and 1 July will go ahead, in the absence of meaningful concessions from the University. Details and a provisional schedule are at the end of this email.
Please join our general meeting on 28 June at 1pm to discuss these developments and prepare for the strike.
Update from meeting with VC and communications from UEB
Yesterday (Thursday 22nd June), the VC and University Executive Board (UEB) finally met with us to discuss the dispute and their punitive approach to salary deductions for those participating in the MAB. The content of today’s email from the VC was not discussed with us at the meeting, and it was clear that they were not prepared to engage in meaningful negotiations. They did not agree to jointly call for a return to negotiations between UCU and UCEA (University and Colleges Employers Association) and were reluctant to even consider following other universities in reducing the punitiveness of pay deductions.
The VC argued that he can’t break rank with his VC colleagues. The growing list of other universities that have broken ranks to make joint statements show it is very possible, but UEB and the Vice-Chancellor, while claiming to act in the interests of students, also seem motivated by a desire to not appear to have conceded anything to us.
They did ask us to send them written proposals on reducing strike deductions for them to consider, which you can read on the branch website. Their reply and the VC’s email today show again that they were not serious about considering any further proposals. 
Instead, we have received an all-staff email from the Vice-Chancellor announcing a new policy of ‘encouraging’ members taking part in the Marking and Assessment Boycott to give up their participation in exchange for fully backdated pay. It requires missing marks to be submitted on a very tight timeline, by July 3rd.
This move does not represent a less punitive approach to members who continue to boycott, so the upcoming strike days targeting the open days on Friday 30 June and Saturday 1 July remain justified. The move is designed to create divisions between us, and will in fact create further EDI issues because some people who might be tempted to abandon the MAB now will not physically be able to carry out their marking. (The EDI issues exacerbated by the deductions was a point we made in the meeting.)
This bad-faith offer represents all the more reason to hold the line, and join if you have not done so already. We remind members that the national UCU has pledged financial support for those facing 50% deductions, and that our local solidarity fund is continuing to grow and can help people who fall outside the national UCU pledge. The GoFundMe is doing very well, and we have also had so many donations directly to the branch account that it is likely we will reach our target. Donate to the branch GoFundMe if you can.
Upcoming strike days
Next week, Cardiff UCU members will strike on the university-wide Open Days – Friday 30 June, and Saturday 1 July.
These strikes are part of the escalation approved by branch members to protest the punitive 50% pay deductions imposed by Cardiff Uni and it is vital everyone joins to help build pressure. These strike days could be what makes the difference in us achieving fairer MAB pay deductions and building pressure in support of the national dispute.
Two months into the MAB, colleagues who continue to participate stand to lose half of their pay for this entire period – effectively losing a month’s pay in one payslip. This is an immense sacrifice by these members. Its toll is mental and emotional as well as financial. We believe this is unfair and, following motions passed by members at our General Meetings, we have called these strike days to pressure the University Executive Board (UEB) to lessen these reductions, and to publicly call on UCEA to negotiate with UCU and ultimately end the MAB.
We urge all members to join these strike days, whether or not you have been able to participate in the MAB. We need your solidarity. We need you to show the employer that their response to the MAB has been unfair and disproportionate. This is an opportunity for all members to support the ongoing fight for better pay and working conditions for all staff.
What if I haven’t been in the MAB? 
These strikes are for every single member in our branch – all of us. If you haven’t been in the MAB for any reason, this is a vital opportunity for you to support those who are MABing at a crucial time. Every boycotting member will appreciate and welcome your support. Not everyone can take part in the MAB, by its nature. We do not need to let this divide us. We must stand together in the face of our attempts to wear us down. Every member has a role to play next week. We are stronger together.
What if I don’t work on Saturdays?
If you join our pickets next Saturday but you are not due to work that day you will not lose any pay. It will count as joining in solidarity, not officially being on strike. Join us! The same goes for if you are not due to work on Friday 30 June – you will not lose any pay for joining, all the more reason to join and show your support.
Plan for Open Day Strike 1: Friday 30 June
08.30 Assemble for picket: Outside the Main Building opposite the Centre for Student Life on Park Place
12.00 Informal rally with music
~17.00 Cardiff UCU social event – at Brewhouse and Kitchen, Sophia Garden (More details closer to the time.)
Plan for Open Day Strike Day 2: Saturday 1 July
08.30 Assemble for picket(s):  Outside the Main Building opposite the Centre for Student Life on Park Place
12.00 Informal rally with music
13.00 Cardiff UCU social event – Family picnic in Alexandra Gardens
Banner-Making Workshop – Wednesday 28 June at 5pm
We’re having a banner making workshop on Wednesday 28th June at 5pm in the Students Union. This is to make banners and placards for the open day strikes on 30th June and 1st July.
Meeting point: 5pm around the lobby area of the students union (between the Taff and the canteen ‘Food at Y Plas’). Come up the main steps from Park Place and it’s the first area inside the building you get to.
Please forward this invitation to anyone whose fancy it might tickle.
Just bringing yourself would be great. If you also have any paints or other materials you wish to bring along please do that too!
Byddwch wedi derbyn e-bost gan yr Is-Ganghellor heddiw yn ceisio annog y rhai sy’n cymryd rhan yn y Boicot Asesu a Marcio (BAM) i roi’r gorau i’w gweithredu. Mae’r cam hwn yn dangos effeithiolrwydd y BAM, er gwaethaf yr hyn y mae cyfathrebu swyddogol y Brifysgol yn ei ddweud am ‘niferoedd bach’ o’r staff yn cymryd rhan.
Rydym yn annog ein haelodau i sefyll yn gadarn a dal eu tir. Mae cymorth ariannol ar gael i chi gan UCU Cenedlaethol a’n cronfa leol. Cyfrannwch i’r GoFundMe os gallwch chi.
Bydd ein streiciau sy’n targedu’r diwrnodau agored ar 30 Mehefin a 1 Gorffennaf yn mynd rhagddynt, yn absenoldeb consesiynau ystyrlon gan y Brifysgol. Mae manylion ac amserlen dros dro ar ddiwedd yr e-bost hwn.
Ymunwch â’n cyfarfod cyffredinol ar 28 Mehefin am 1pm i drafod y datblygiadau hyn a pharatoi ar gyfer y streic.
Diweddariad o’r cyfarfod gyda’r Is-Ganghellor a chyfathrebiadau gan UEB
Ddoe (dydd Iau 22 Mehefin), cyfarfu’r I-G a Bwrdd Gweithredol y Brifysgol (UEB) â ni o’r diwedd i drafod yr anghydfod a’u hagwedd llym tuag at ddidyniadau cyflog y rhai sy’n cymryd rhan yn y BAM. Ni thrafodwyd cynnwys yr e-bost heddiw o’r Is-Ganghellor â ni yn y cyfarfod, ac roedd yn amlwg nad oeddent yn barod i gymryd rhan mewn trafodaethau ystyrlon. Nid oeddent yn fodlon galw ar y cyd am ailgychwyn trafodaethau rhwng UCU ac UCEA (Cymdeithas Cyflogwyr Prifysgolion a Cholegau) ac roeddent yn amharod i hyd yn oed ystyried dilyn prifysgolion eraill i leihau cosbau didyniadau cyflog.
Dadleuodd yr I-G na all dorri cwys ei hun yng nghyswllt ei gyd-Is-Gangellorion. Mae’r rhestr gynyddol o brifysgolion eraill sydd wedi torri o’r rhengoedd i gyhoeddi datganiadau ar y cyd yn dangos ei bod yn bosib iawn, ond ymddengys bod UEB a’r Is-ganghellor – tra’n honni eu bod yn gweithredu er lles myfyrwyr – hefyd yn cael eu hysgogi gan awydd i beidio ag ildio unrhyw dir i ni.
Gofynnwyd inni anfon cynigion ysgrifenedig atynt iddynt eu hystyried ar leihau didyniadau streic, y gallwch eu darllen yma. Mae eu hateb ac e-bost yr I-G heddiw yn dangos eto nad oeddent o ddifrif am ystyried unrhyw gynigion pellach.
Yn hytrach, rydym wedi derbyn e-bost i’r holl staff gan yr Is-Ganghellor yn cyhoeddi polisi newydd o ‘annog’ aelodau sy’n cymryd rhan yn y Boicot Asesu a Marcio i roi’r gorau iddi, er mwyn hawlio’u tâl yn ôl, wedi ôl-ddyddio’n llawn. I’r diben hwn mae angen cyflwyno marciau coll ar amserlen dynn iawn, erbyn Gorffennaf 3ydd.
Nid yw’r cynnig hwn yn golygu agwedd llai llym tuag at aelodau sy’n parhau i foicotio, felly mae’r dyddiau streic sydd i ddod, sy’n targedu’r diwrnodau agored ar ddydd Gwener 30 Mehefin a dydd Sadwrn 1 Gorffennaf, yn parhau i fod yn ddilys. Mae’r cynnig wedi’i gynllunio i greu rhaniadau rhyngom, a bydd mewn gwirionedd yn creu problemau cydraddoldeb pellach, oherwydd ni fydd rhai pobl a allai gael eu temtio i roi’r gorau i’r BAM cyflawni’r marcio mewn pryd. (Roedd y materion cydraddoldeb sydd wedi’u dwysau gan y didyniadau yn bwynt a wnaethom yn y cyfarfod.)
Mae’r cynnig gwamal hwn yn cynrychioli mwy fyth o reswm i sefyll ein cornel, neu ymuno yn yr ymdrech os nad ydych wedi gwneud hynny’n barod. Rydym yn atgoffa’r aelodau bod yr UCU cenedlaethol wedi addo cymorth ariannol i’r rhai sy’n wynebu didyniadau o 50%, a bod ein cronfa undod leol yn parhau i dyfu ac yn gallu helpu pobl sydd y tu allan i’r addewid cenedlaethol gan yr UCU. Mae’r gofundme yn gwneud yn dda iawn ac rydym hefyd wedi cael cymaint o roddion yn uniongyrchol i gyfrif y gangen ei bod yn debygol y byddwn yn cyrraedd ein targed. Cyfrannwch i’r GoFundMe os gallwch chi.
Dyddiau streic sydd i ddod
Yr wythnos nesaf bydd aelodau UCU Caerdydd yn streicio ar Ddiwrnodau Agored y brifysgol gyfan – dydd Gwener 30 Mehefin, a dydd Sadwrn 1 Gorffennaf.
Mae’r streiciau hyn yn rhan o’r dwysau a gymeradwywyd gan aelodau’r gangen i brotestio yn erbyn didyniadau cyflog llym o 50% a osodwyd gan Brifysgol Caerdydd, ac mae’n hanfodol bod pawb yn ymuno i helpu i gynyddu’r pwysau. Gallai’r diwrnodau streic hyn gwneud y gwahaniaeth wrth inni geisio didyniadau cyflog BAM tecach, a chynyddu pwysau o ran yr anghydfod cenedlaethol.
Ddeufis ers cychwyn y BAM, mae cydweithwyr sy’n parhau i gymryd rhan yn debygol o golli hanner eu cyflog am y cyfnod cyfan hwn – i bob pwrpas yn colli mis o gyflog mewn un slip cyflog. Dyma aberth aruthrol gan yr aelodau hyn. Mae’n draul feddyliol ac emosiynol yn ogystal ag ariannol. Credwn fod hyn yn annheg ac – yn dilyn cynigion a basiwyd gan aelodau yn ein Cyfarfodydd Cyffredinol – rydym wedi galw’r diwrnodau streic hyn i roi pwysau ar Fwrdd Gweithredol y Brifysgol (UEB) i leihau’r gostyngiadau hyn, ac i alw’n gyhoeddus ar UCEA i drafod ag UCU ac yn y pen draw ddod a’r BAM i ben.
Rydym yn annog pob aelod i ymuno â’r diwrnodau streic hyn, p’un a ydych wedi gallu cymryd rhan yn y BAM ai peidio. Mae arnom angen chi i gydsefyll. Mae angen i chi ddangos i’r cyflogwr bod eu hymateb i’r BAM wedi bod yn annheg ac yn anghymesur. Mae hwn yn gyfle i bob aelod gefnogi’r frwydr barhaus am well cyflog ac amodau gwaith i’r holl staff.
Beth os nad ydw i wedi bod yn rhan o’r BAM?
Mae’r streiciau hyn ar gyfer pob un aelod yn ein cangen – pob un ohonom. Os nad ydych wedi bod yn y BAM am unrhyw reswm, mae hwn yn gyfle anhepgor i chi gefnogi’r rhai sy’n BAMio ar adeg hollbwysig. Bydd pob aelod sy’n boicotio yn gwerthfawrogi ac yn croesawu eich cefnogaeth. Ni all pawb gymryd rhan yn y BAM, oherwydd ei natur. Nid yw hyn yn rheswm i’n rhannu. Rhaid inni sefyll gyda’n gilydd yn wyneb yr ymdrechion i’n blino a’n nychu. Mae gan bob aelod rôl i’w chwarae wythnos nesaf. Rydym yn gryfach gyda’n gilydd.
Beth os nad wyf yn gweithio ar ddydd Sadwrn?
Os ymunwch â’n picedi dydd Sadwrn nesaf, ond nid ydych yn gweithio’r diwrnod hwnnw ni fyddwch yn colli unrhyw gyflog. Bydd yn cyfrif fel ymuno mewn undod, nid bod ar streic yn swyddogol. Ymunwch â ni! Mae’r un peth yn wir os nad ydych i fod i weithio ddydd Gwener 30 Mehefin – ni fyddwch yn colli unrhyw dâl am gyfrannu, mwy fyth o reswm i ymuno a dangos eich cefnogaeth.
Cynllun ar gyfer Diwrnod Agored Streic 1: Dydd Gwener 30 Mehefin
08.30 Ymgynnull ar gyfer piced: Y tu allan i’r Prif Adeilad gyferbyn â Chanolfan Parc Bywyd Myfyrwyr 12.00 Rali anffurfiol gyda cherddoriaeth ~17.00 Digwyddiad cymdeithasol UCU Caerdydd – diodydd yn Brewhouse and Kitchen, Gerddi Soffia
Cynllun ar gyfer Diwrnod Agored Diwrnod Streic 2: Dydd Sadwrn 1 Gorffennaf
08.30 Ymgynnull ar gyfer piced(i): Y tu allan i’r Prif Adeilad gyferbyn â’r Ganolfan Bywyd Myfyrwyr ar Blas y Parc 12.00 Rali anffurfiol gyda cherddoriaeth 13.00 Digwyddiad cymdeithasol UCU Caerdydd – Picnic teuluol yng Ngerddi Alexandra
Gweithdy Creu Baneri – Dydd Mercher 28 Mehefin am 5pm
Rydym yn cynnal gweithdy creu baneri ar ddydd Mercher 28 Mehefin am 5pm yn Undeb y Myfyrwyr. Mae hyn er mwyn creu baneri a phlacardiau ar gyfer y streiciau diwrnod agored ar 30 Mehefin a 1 Gorffennaf.
Man cyfarfod: 5pm o gwmpas cyntedd Undeb y Myfyrwyr (rhwng y Taf a’r ffreutur ‘Bwyd yn Y Plas’). Dewch i fyny’r prif risiau o Blas y Parc a dyma’r rhan gyntaf o’r adeilad y byddwch chi’n ei gyrraedd.
A fyddech cystal ag anfon y gwahoddiad hwn ymlaen at unrhyw un sy ffansi’r sesiwn.
Byddai dod â dim ond chi’ch hun yn wych. Os oes gennych chi hefyd unrhyw baent neu ddeunyddiau eraill yr hoffech ddod gyda chi, gwnewch hynny hefyd!