Streic – Templed allan o’r swyddfa 2023

Rwyf ar hyn o bryd yn streicio mewn ymateb i ddidyniadau cystwyol fy nghyflogwr i gyflogau’r staff sy’n cymryd rhan yn y Boicot Asesu a Marcio (BAM) parhaus a alwyd gan UCU.

Mae’r BAM yn cael ei gynnal fel rhan o weithredu ledled ein prifysgolion. Fodd bynnag, mae yna hefyd anghydfod lleol i Brifysgol Caerdydd ynghylch penderfyniad y rheolwyr i ddidynnu 50% o gyflog staff sy’n gwrthod marcio gwaith, a hynny am gyfnod amhenodol. Mae UCU Caerdydd o’r farn bod y didyniadau hyn yn llawer rhy llym, am nad ydynt yn ystyried graddfa addas o’n llwyth gwaith (mae un aelod wedi cael misoedd o gyflog wedi’i ddidynnu am wrthod marcio un darn o waith), ac oherwydd nad yw’r dyddiad dechrau’r didyniadau’n cyd-fynd ag arferion ac ymarfer cyffredin marcio gwaith myfyrwyr.

Hyd yn hyn ychydig o gonsesiynau y mae ein cyflogwr wedi’u cynnig: tua phythefnos lle caiff didyniadau eu hatal, ar yr amod bod pob cam gweithredu lleol yn cael ei ohirio, a bod y trafodaethau cenedlaethol yn arwain at atal y MAB. Nid yw hyn yn ddigonol, a bydd aelodau’n parhau â streicio yn ein hanghydfod lleol nes bod Prifysgol Caerdydd yn cydnabod mai ei pholisïau hi yw’r rhai mwyaf cystwyol yng Nghymru, a phenderfynu gwneud rhywbeth yn ei gylch.

Mae ein streic yn cwmpasu wythnos raddio. Byddaf yn dychwelyd i’r gwaith ar y 24ain o Orffennaf, ond gan fy mod fel arall yn gweithio i gontract fel rhan o ASOS – gweithredu ond heb fod ar streic – efallai y bydd yn cymryd ychydig mwy o amser i mi ymateb i chi.

Ar BAM a streic

Rwyf ar hyn o bryd yn gweithredu mewn Boicot Asesu a Marcio (BAM) a elwir gan UCU.

Mae fy nghyflogwr wedi dweud wrthyf nad yw’n derbyn perfformiad anghyflawn o’m cyfrifoldebau. Mae wedi datgan wrthyf fod unrhyw waith yr wyf yn ei gyflawni yn wirfoddol, ac na ddylwn ddisgwyl cael fy nhalu amdano.

Gan fod fy holl dasgau gwaith yn wirfoddol ar hyn o bryd, efallai y bydd peth amser cyn i mi ymateb i’ch neges, neu efallai na chewch ateb o gwbl. Os oes yna dasgau brys y credwch sy’n gyfrifoldeb i mi, cysylltwch â’m rheolwr llinell, XXYY yn XXYY@caerdydd.ac.uk; dylech gynllunio gan ragdybio na fyddaf yn ymateb ichi.